4 Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses.
5 Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid;
6 a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau.
7 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera.
8 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd.
9 Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd.
10 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.