6 “Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau;aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.
7 Darfu am drigolion pentrefi,darfu amdanynt yn Israelnes i mi, Debora, gyfodi,nes i mi godi yn fam yn Israel.
8 Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.
9 Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.
10 “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.
11 Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.
12 “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!