18 Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn.
19 A gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain?” A dywedodd wrthyf, “Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem.”
20 Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof.
21 A dywedais, “Beth y mae'r rhain am ei wneud?” Atebodd, “Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru.”