Sechareia 8 BCN

Addo Adfer Jerwsalem

1 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; â llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.’

3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’

4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd hen wŷr a gwragedd unwaith eto yn eistedd yn heolydd Jerwsalem, pob un â ffon yn ei law oherwydd ei henaint;

5 bydd strydoedd y ddinas yn llawn o fechgyn a genethod yn chwarae ar hyd y stryd.’

6 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.

7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Wele fi'n gwaredu fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a'u dwyn i drigo yng nghanol Jerwsalem;

8 a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, mewn gwirionedd a chyfiawnder.’

9 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tŷ ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml.

10 Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd.

11 Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.

12 ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn.

13 Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’

14 “Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais,

15 felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni.

16 Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth;

17 peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.”

18 Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,

19 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i dŷ Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.’

20 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion;

21 bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd.

22 Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.’

23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yn y dyddiau hynny bydd deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14