1 Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrachac yn Namascus, ei orffwysfa.Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram,fel holl lwythau Israel;
2 hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.
3 Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;pentyrrodd arian fel llwch,ac aur fel llaid heol.
4 Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddoac yn difetha ei grym ar y môr;ac ysir hithau yn y tân.
5 Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;derfydd am frenin yn Gasa,a bydd Ascalon heb drigolion;
6 pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,a thorraf ymaith falchder y Philistiad.
7 Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,ac fel tylwyth yn Jwda;a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
8 Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.
9 “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.
10 Tyr ymaith y cerbyd o Effraima'r meirch o Jerwsalem;a thorrir ymaith y bwa rhyfel.Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
11 “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.
12 Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
13 Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”
14 Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,a'i saeth yn fflachio fel mellten;Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgornac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.
15 Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;llwyddant, sathrant y cerrig tafl,byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,wedi eu trochi fel cyrn allor.
16 Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;bydd ei bobl fel praidd,fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.
17 Mor dda ac mor brydferth fydd!Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,a gwin i'r morynion.