Sechareia 6 BCN

Gweledigaeth y Pedwar Cerbyd

1 Edrychais i fyny eto, a gweld pedwar cerbyd yn dod allan rhwng dau fynydd, a'r rheini'n fynyddoedd o bres.

2 Wrth y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, wrth yr ail, feirch duon,

3 wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion.

4 Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”

5 Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

6 Y mae'r cerbyd gyda cheffylau duon yn mynd i dir y gogledd, yr un gyda'r rhai gwynion i'r gorllewin, yr un gyda'r rhai brithion i'r de.”

7 Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, “Ewch i dramwyo'r ddaear.” A gwnaethant hynny.

8 Yna galwodd arnaf a dweud, “Edrych fel y mae'r rhai sy'n mynd i dir y gogledd wedi rhoi gorffwys i'm hysbryd yn nhir y gogledd.”

Gorchymyn i Goroni Josua

9 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

10 “Cymer arian ac aur oddi ar Haldai, Tobeia a Jedaia, caethgludion a ddaeth o Fabilon, a dos di y dydd hwnnw i dŷ Joseia fab Seffaneia.

11 Gwna goron o'r arian a'r aur, a'i rhoi ar ben Josua fab Josedec, yr archoffeiriad,

12 a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Wele'r dyn a'i enw Blaguryn, oherwydd blagura o'i gyff ac adeiladu teml yr ARGLWYDD.

13 Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’

14 A bydd y goron yn nheml yr ARGLWYDD yn goffâd i Haldai, Tobeia, Jedaia a Joseia fab Seffaneia.

15 Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14