Sechareia 10 BCN

Yr ARGLWYDD yn Addo Gwaredigaeth

1 Gofynnwch i'r ARGLWYDD am lawyn nhymor glaw'r gwanwyn;yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymiona'r cawodydd glaw,ac yn rhoi gwellt y maes i bawb.

2 Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd,a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd;cyhoeddant freuddwydion twyllodrus,a chynnig cysur gwag.Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid,yn druenus am eu bod heb fugail.

3 “Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid,a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd;oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tŷ Jwda,a'u gwneud yn farch-rhyfel balch.

4 Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell;ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel;ohonynt hwy y daw pob cadfridog.

5 Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyryn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr;brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy,a pharant gywilydd i farchogion.

6 Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol,a gwaredaf dŷ Joseff;dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt,a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod;oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.

7 Yna bydd Effraim fel rhyfelwr,a'i galon yn llawenhau fel gan win,a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu,a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.

8 Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy,a byddant cyn amled ag y buont gynt.

9 Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd,eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant,a magu plant, a dychwelyd.

10 Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft,a chasglaf hwy o Asyria;dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanonhyd nes y byddant heb le.

11 Ânt trwy fôr yr argyfwng;trewir tonnau'r môr,a sychir holl ddyfnderoedd y Neil.Darostyngir balchder Asyria,a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.

12 Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD,ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14