1 Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo.
2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r tân yw hwn?”
3 Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron;
4 a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, “Tynnwch y dillad budron oddi amdano.” Dywedodd wrth Josua, “Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf â gwisgoedd gwynion.”
5 Dywedodd hefyd, “Rhodder twrban glân am ei ben”; a rhoesant dwrban glân am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw.
6 Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud,
7 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhŷ a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd.
8 Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn.
9 Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod.
10 Y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.’ ”