2 “Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid.
3 Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘a dychwelaf finnau atoch chwi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4 ‘Peidiwch â bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,’ medd yr ARGLWYDD.
5 ‘Eich hynafiaid—ple maent? A'r proffwydi—a ydynt i fyw am byth?
6 Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi—oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?’ ”
7 Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido.
8 Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.