14 Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer eto offer bugail diwerth,
16 oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig, nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.
17 “Gwae'r bugail diwerth,sy'n gadael y praidd.Trawed y cleddyf ei fraicha'i lygad de;bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth,a'i lygad de yn hollol ddall.”