8 Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau.
9 Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.”
10 A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd.
11 Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.
12 A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa—y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhŷ'r ARGLWYDD.
14 Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.