6 Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”
7 “Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail,ac yn erbyn y gŵr sydd yn f'ymyl,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Taro'r bugail, a gwasgerir y praidd,a rhof fy llaw yn erbyn y rhai bychain.
8 Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD,“trewir dwy ran o dair, a threngant,a gadewir traean yn fyw.
9 A dygaf y drydedd ran trwy dân,a'u puro fel y purir arian,a'u profi fel y profir aur.Byddant yn galw ar f'enw,a minnau fy hun yn ateb;dywedaf fi, ‘Fy mhobl ydynt’,a dywedant hwy, ‘Yr ARGLWYDD yw ein Duw’.”