5 Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar ôl ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef.
6 Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.
7 A bydd yn un diwrnod—y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD—heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.
8 Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i fôr y dwyrain a'u hanner i fôr y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf.
9 Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un.
10 Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin.
11 Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.