8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9 “Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch.
10 “Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel.“Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear.”
11 Yna gofynnais iddo, “Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?”
12 A gofynnais iddo eilwaith, “Beth yw'r ddwy gangen olewydd sydd yn ymyl y ddwy bibell aur sy'n tywallt yr olew?”
13 Ac atebodd fi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais innau, “Na wn i, f'arglwydd.”
14 Yna dywedodd, “Y rhain yw'r ddau eneiniog sy'n gwasanaethu ARGLWYDD yr holl ddaear.”