3 Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;pentyrrodd arian fel llwch,ac aur fel llaid heol.
4 Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddoac yn difetha ei grym ar y môr;ac ysir hithau yn y tân.
5 Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;derfydd am frenin yn Gasa,a bydd Ascalon heb drigolion;
6 pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,a thorraf ymaith falchder y Philistiad.
7 Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,ac fel tylwyth yn Jwda;a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
8 Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.
9 “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.