7 Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,ac fel tylwyth yn Jwda;a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
8 Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.
9 “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.
10 Tyr ymaith y cerbyd o Effraima'r meirch o Jerwsalem;a thorrir ymaith y bwa rhyfel.Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
11 “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.
12 Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
13 Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”