9 “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.
10 Tyr ymaith y cerbyd o Effraima'r meirch o Jerwsalem;a thorrir ymaith y bwa rhyfel.Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
11 “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.
12 Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
13 Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”
14 Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,a'i saeth yn fflachio fel mellten;Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgornac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.
15 Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;llwyddant, sathrant y cerrig tafl,byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,wedi eu trochi fel cyrn allor.