13 A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,
14 Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
15 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
16 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad.
17 Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech.
18 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber.
19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan.