1 A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:
2 O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.
3 A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd.
4 O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth:
5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu'r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.
6 Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.
7 A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8 A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.
9 A'r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
10 Y trydydd i Saccur; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
11 Y pedwerydd i Isri; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
12 Y pumed i Nethaneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
13 Y chweched i Bucceia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
14 Y seithfed i Jesarela; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
15 Yr wythfed i Jesaia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
16 Y nawfed i Mataneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
17 Y degfed i Simei; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
18 Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
19 Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
20 Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
21 Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
22 Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
23 Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
24 Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
25 Y deunawfed i Hanani; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
26 Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
27 Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
28 Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
29 Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
30 Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
31 Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.