1 Cronicl 15 BWM

1 A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratôdd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell.

2 A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond i'r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd.

3 A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr Arglwydd i'w lle a baratoesai efe iddi hi.

4 A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a'r Lefiaid.

5 O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a'i frodyr, cant ac ugain.

6 O feibion Merari; Asaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant ac ugain.

7 O feibion Gersom; Joel y pennaf, a'i frodyr, cant a deg ar hugain.

8 O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant.

9 O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a'i frodyr, pedwar ugain.

10 O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a'i frodyr, cant a deuddeg.

11 A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,

12 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a'ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi hi.

13 Oherwydd nas gwnaethoch o'r dechreuad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.

14 Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel.

15 A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr Arglwydd.

16 A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.

17 Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o'i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.

18 A chyda hwynt eu brodyr o'r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, y porthorion.

19 Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres.

20 A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.

21 A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori.

22 Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd.

23 A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i'r arch.

24 A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i'r arch.

25 Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd.

26 A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.

27 A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a'r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a'r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a'r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.

28 A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda'r nablau a'r telynau.

29 A phan ydoedd arch cyfamod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29