1 Cronicl 9 BWM

1 A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.

2 Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r Nethiniaid.

3 Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse:

4 Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda.

5 Ac o'r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a'i feibion.

6 Ac o feibion Sera; Jeuel, a'u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain.

7 Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua,

8 Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;

9 A'u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.

10 Ac o'r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin,

11 Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw;

12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.

13 A'u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw.

14 Ac o'r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,

15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;

16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.

17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;

18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.

19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.

20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gydag ef.

21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.

22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.

23 Felly hwynt a'u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.

24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.

25 A'u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.

26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.

27 Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.

28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.

29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a'r gwin, a'r olew, a'r thus, a'r aroglau peraidd.

30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o'r aroglau peraidd.

31 A Matitheia, un o'r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.

32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i'w ddarparu bob Saboth.

33 A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.

34 Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.

35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:

36 A'i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,

37 A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth.

38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.

39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.

40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.

41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.

42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:

43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29