1 Cronicl 24 BWM

1 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.

2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant.

3 A Dafydd a'u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.

4 A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.

5 Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda'r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar.

6 A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a'u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a'r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a'r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar.

7 A'r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a'r ail i Jedaia,

8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,

9 Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,

10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,

11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia,

12 Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim,

13 Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,

14 Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer,

15 Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses,

16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,

17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,

18 Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.

19 Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.

20 A'r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia.

21 Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.

22 O'r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.

23 A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.

24 O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir.

25 Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia.

26 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.

27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri.

28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion.

29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel.

30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.

31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a'r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29