1 Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal.
2 A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid.
3 A'r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi.
4 A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata, tad Bethlehem.
5 Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara.
6 A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara.
7 A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan.
8 A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.
9 Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na'i frodyr; a'i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid.
10 A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a'm cadw oddi wrth ddrwg, fel na'm gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.
11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston.
12 Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha.
13 A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath.
14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy.
15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas.
16 A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.
17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.
18 A'i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered.
19 A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.
20 A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.
21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,
22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.
23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda'r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.
28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual,
29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,
30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag,
31 Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd.
32 A'u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd.
33 A'u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a'u hachau.
34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia,
35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel,
36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia,
37 A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.
38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i'w praidd.
40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o'r blaen oedd o Cham.
41 A'r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a'r anheddau a gafwyd yno, ac a'u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i'w praidd hwynt yno.
42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt.
43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.