1 Cronicl 5 BWM

1 A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint:

2 Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a'r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff.)

3 Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi.

4 Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,

5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,

6 Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i'r Reubeniaid.

7 A'i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,

8 A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon.

9 Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i'r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.

10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha:

12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan.

13 A'u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith.

14 Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus;

15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.

16 A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau.

17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18 Meibion Reuben, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.

19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.

20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i'w dwylo hwynt, a chwbl a'r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.

21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o'u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil.

22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.

24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o'u blaen hwynt.

26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a'u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a'u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29