1 Cronicl 8 BWM

1 Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,

2 Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.

3 A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,

4 Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa,

5 A Gera, a Seffuffan, a Huram.

6 Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba, a hwy a'u mudasant hwynt i Manahath:

7 Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a'u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.

8 Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.

9 Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,

10 A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl.

11 Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.

12 A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi.

13 Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.

14 Ahïo hefyd, Sasac, a Jeremoth,

15 Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader,

16 Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia;

17 Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber,

18 Ismerai hefyd, a Jeslïa, a Jobab, meibion Elpaal;

19 Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi,

20 Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel,

21 Adaia hefyd, a Beraia, a Simrath, meibion Simhi;

22 Ispan hefyd, a Heber, ac Eliel,

23 Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan,

24 Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotheia,

25 Iffedeia hefyd, a Phenuel, meibion Sasac;

26 Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia,

27 Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham.

28 Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.

29 Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.

30 Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,

31 Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher.

32 Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.

33 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.

34 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.

35 A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.

36 Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa,

37 A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

38 Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel.

39 A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf‐anedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd.

40 A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a'u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29