1 Cronicl 3 BWM

1 Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles:

2 Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith:

3 Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.

4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

5 A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:

6 Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,

7 A Noga, a Neffeg, a Jaffia,

8 Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.

9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;

11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

15 A meibion Joseia; y cyntaf‐anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum.

16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.

17 A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau,

18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia.

19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt:

20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab‐hesed, pump.

21 A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia.

22 A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech.

23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri.

24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29