1 Cronicl 13 BWM

1 A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac â'r holl dywysogion.

2 A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o'r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a'r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a'u meysydd pentrefol, i'w cynnull hwynt atom ni.

3 A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul.

4 A'r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl.

5 Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim.

6 A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel, i Baala, sef Ciriath‐jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef.

7 A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen.

8 A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â'u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.

9 A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi.

10 Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a'i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.

11 A bu ddrwg gan Dafydd am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa, hyd y dydd hwn.

12 A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi?

13 Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a'i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad.

14 Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A'r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom, a'r hyn oll ydoedd eiddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29