44 A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.
45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef.
46 A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith.
47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca.
48 A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef.
49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor.
50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.