8 A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa.
9 Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a'i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i'w delwau, ac i'r bobl.
10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a'i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,
12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a'u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.
13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi;
14 Ac heb ymgynghori â'r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.