11 Attai y chweched, Eliel y seithfed,
12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed,
13 Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.
14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a'r mwyaf ar fil.
15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua'r dwyrain, a thua'r gorllewin.
16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i'r amddiffynfa at Dafydd.
17 A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.