1 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.
2 A gwybu Dafydd sicrhau o'r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
3 A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched.
4 A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,
5 Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,
6 A Noga, a Neffeg, a Jaffa,