10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a'u rhoddaf hwynt yn dy law di.
11 Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a'u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim.
12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.
13 A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn.
14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.
15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o'th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.