12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.
13 A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn.
14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.
15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o'th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.
17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a'r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.