22 Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd.
23 A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i'r arch.
24 A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i'r arch.
25 Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd.
26 A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
27 A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a'r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a'r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a'r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.
28 A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda'r nablau a'r telynau.