14 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
15 Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau;
16 Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac:
17 Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
19 Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20 A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;