17 Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
19 Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20 A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;
21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o'u plegid hwy, gan ddywedyd,
22 Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23 Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.