21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o'u plegid hwy, gan ddywedyd,
22 Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23 Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
24 Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26 Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.