24 Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26 Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
28 Moeswch i'r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
29 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd.
30 Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.