34 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
35 A dywedwch, Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.
36 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.
37 Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, Asaff a'i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
38 Ac Obed‐edom a'u brodyr, wyth a thrigain; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion:
39 Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon,
40 I offrymu poethoffrymau i'r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchmynnodd efe i Israel: