5 Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed‐edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau.
6 Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.
7 Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a'i frodyr.
8 Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
9 Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.
10 Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd.
11 Ceiswch yr Arglwydd a'i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.