7 Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a'i frodyr.
8 Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
9 Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.
10 Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd.
11 Ceiswch yr Arglwydd a'i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
12 Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;
13 Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.