10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.
11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o'th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.
12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.
13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a'm trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o'th flaen di.
14 Ond mi a'i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a'i deyrngadair ef a sicrheir byth.
15 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?