23 Am hynny yr awr hon, Arglwydd, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.
24 A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.
25 Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i'th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.
26 Ac yr awr hon, Arglwydd, ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;
27 Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O Arglwydd, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.