8 Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â'r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a'r colofnau, a'r llestri pres.
9 A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;
10 Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i'w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a'i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
11 Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r Arglwydd, gyda'r arian a'r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.
12 Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a'r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
14 A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.