1 Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw; a'i fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2 A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i'w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i'w gysuro ef.
3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?
4 Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a'u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a'u gyrrodd hwynt ymaith.
5 A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.
6 Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria‐maacha ac o Soba.
7 A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a'i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o'u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.