11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.
12 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a'th gynorthwyaf dithau.
13 Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
14 Yna y nesaodd Joab a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel; a hwy a ffoesant o'i flaen ef.
15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i'r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.
16 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o'u blaen hwynt.
17 A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.