1 Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon,
2 Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.
3 Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd, ac efe a'i lladdodd ef.
4 A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.
5 Meibion Phares; Hesron a Hamul.
6 A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.
7 A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.