24 Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.
25 A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.
26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a'i henw Atara: hon oedd fam Onam.
27 A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer.
28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.
29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.
30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant.