51 Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth‐gader.
52 A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath‐jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid,
53 A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid, a'r Puhiaid, a'r Sumathiaid, a'r Misraiaid: o'r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a'r Esthauliaid.
54 Meibion Salma; Bethlehem, a'r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid.
55 A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.