1 A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.
2 Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ Dduw.
3 A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i'r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys;
4 Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a'r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.
5 A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a'r tŷ a adeiledir i'r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
6 Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel.